OPIN-2023-0333 Gorsaf Gerdded Magwyr - buddugoliaeth gyflym i Burns (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/02/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn talu teyrnged i ymgyrchwyr Grŵp Gweithredu Rheilffordd Magwyr (MAGOR) sydd, ers dros ddegawd, wedi bod yn gweithio tuag at y nod o sefydlu gorsaf gerdded gyntaf y DU mewn dros 100 mlynedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i weithio gyda'i gilydd a sicrhau bod gorsaf gerdded Magwyr yn realiti ac yn fuddugoliaeth gyflym i uned gyflenwi Burns.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd gorsaf gerdded ym Magwyr a sut y gall alinio ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o gael system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig a hygyrch ar gyfer de-ddwyrain Cymru.