OPIN-2023-0332 Wythnos Ymwybyddiaeth Cam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/02/2023
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Cam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol, 6 – 12 Chwefror, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o gam-drin rhywiol a thrais rhywiol a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i oroeswyr.
2. Yn nodi bod cannoedd o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth, ar-lein ac wyneb yn wyneb, ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o gam-drin rhywiol a thrais rhywiol.
3. Yn nodi bod yr wythnos ymwybyddiaeth yn caniatáu i sefydliadau, elusennau, ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol ac unigolion hyrwyddo trafodaethau iach o ran cam-drin rhywiol a thrais rhywiol a thynnu sylw ar yr hyn sydd fel arfer yn bwnc cudd iawn.