OPIN-2023-0331 Gwrthwynebu'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2023
Mae'r Senedd hon:
1. Yn condemnio'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol).
2. Yn cydnabod y byddai'r Bil yn diwygio Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 drwy fewnosod darpariaethau newydd gan roi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon, a ystyrir gan bawb fel hawl ddemocrataidd sylfaenol.
3. Yn cefnogi pob undeb llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.
4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er mwyn sicrhau hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru.