OPIN-2023-0329 Gwahardd gorfodi gosod mesuryddion rhagdalu (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod defnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn talu mwy am ynni;
b) bod nifer cynyddol o drigolion yn cael eu gorfodi i newid i fesuryddion rhagdalu yn ystod yr argyfwng costau byw;
c) bod cwsmeriaid rhagdalu yn cynnwys nifer anghymesur o drigolion tlotach.
2. Yn pryderu:
a) bod llysoedd yn cymeradwyo gwarantau i osod mesuryddion rhagdalu, gydag un enghraifft o 496 gwarant yn cael ei gymeradwyo mewn pedwar munud;
b) ymhlith y 500,000 o warantau y gwnaed cais amdanynt mai 72 yn unig a gafodd eu gwrthod.
3. Yn credu bod llysoedd a chyflenwyr yn cymeradwyo mesuryddion rhagdalu heb y gwiriadau priodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i wahardd gosod gorfodi mesuryddion rhagdalu.

Tanysgrifwyr