OPIN-2023-0328 Neuadd Dewi Sant - neuadd gyngerdd genedlaethol i Gymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod Neuadd Dewi Sant yn cael ei gweld fel neuadd gyngerdd genedlaethol i Gymru.
2. Yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol i Neuadd Dewi Sant barhau fel lleoliad o'r radd flaenaf.
3. Yn nodi fod arian cyhoeddus cyfyngedig ers 2010 wedi cael effaith sylweddol ar allu awdurdodau lleol i gynnal lleoliadau celfyddydol a diwylliannol fel Neuadd Dewi Sant.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd diwylliannol yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a gyflwynir yn Neuadd Dewi Sant ar hyn o bryd, a'r angen i hyn barhau i gyfoethogi bywyd artistig Caerdydd a Chymru.