OPIN-2022-0323 Cefnogi Bil Diogelwch Ar-lein y DU
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 25/11/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cefnogi Bil Diogelwch Ar-lein y DU fel mesur amddiffyn plant brys i gyflwyno system reoleiddio i ymateb i lefelau digynsail o feithrin perthnasau amhriodol a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein.
2. Yn cydnabod bod gan blant hawl i fod yn ddiogel ar-lein ac ni all y cyfrifoldeb fod ar y plentyn i fod yn wydn neu gadw eu hunain yn ddiogel.
3. Yn cydnabod y bydd 200+ o blant yng Nghymru yn dioddef cam-drin rhywiol ar-lein ym mhob mis mae'r Bil Diogelwch Ar-lein yn cael ei oedi yn ôl ymchwil gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.
4. Yn mynegi cefnogaeth ar gyfer pasio'r ddeddfwriaeth heb wanhau unrhyw fesurau amddiffyn plant neu oedi pellach