OPIN-2022-0322 Oed cyfrifoldeb troseddol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai'r oedran cyfrifoldeb troseddol yw 10 oed yng Nghymru a Lloegr, er bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawl y Plentyn yn argymell isafswm oedran o 14.
2. Yn nodi bod yr Alban wedi cynyddu'r oed cyfrifoldeb i 12 yn 2021, bod Gogledd Iwerddon wedi dechrau ymgynghoriad, ond nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw gynlluniau i wneud newidiadau.
3. Yn credu y dylid rhoi cymorth priodol i bobl ifanc sydd wedi profi trawma.
4. Yn cydnabod bod Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru yn cadw at y cysyniad 'Plant yn Gyntaf, Troseddwr yn Ail'.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad.