OPIN-2022-0320 Cefnogi Wal yr Enfys a'r gymuned bêl-droed LHDTC+
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn sefyll mewn cefnogaeth ac undod â'r gymuned LHDTQ+.
2. Yn condemnio penderfyniad FIFA i osod sancsiynau os yw aelodau carfanau yn gwisgo'r band braich 'One Love' mewn cyferbyniad â safiad FIFA ei hun ar hawliau dynol.
3. Yn condemnio ymhellach y ffaith y gofynnwyd i gefnogwyr dynnu eu hetiau bwced enfys i ffwrdd wrth fynd i mewn i'r stadiwm ar gyfer gêm agoriadol Cymru, ac yn mynegi pryder am hyn.
4. Yn galw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr sy'n mynychu gemau yn y dyfodol i wisgo'r band braich 'One Love' neu symbol gweladwy o undod gyda'r gymuned LHDTQ+ a pharhau i hyrwyddo ein gwerthoedd fel cenedl gynhwysol.