OPIN-2022-0318 Uwchgynhadledd ar y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 rhwng 7 a 19 Rhagfyr 2022
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 a gynhelir rhwng 7 a 9 Rhagfyr 2022;
b) y bydd yr uwchgynhadledd hon yn arwain at fframwaith byd-eang newydd ar gyfer bioamrywiaeth.
2. Yn cydnabod cryfder y gefnogaeth ryngwladol ar gyfer gôl byd-eang positif ar natur - er mwyn atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030.
3. Yn croesawu'r cyfle i Gymru ddangos uchelgais uchel yn ystod COP15, a bod yn arweinydd byd o ran cyfieithu'r fframwaith byd-eang i weithredu domestig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori'r nod o sicrhau Cymru sy'n bositif o ran natur, wedi'i hategu gan dargedau adfer natur rwymol.