OPIN-2022-0316 Diwrnod clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint y byd 2021 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/11/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu'r cyfle i dynnu sylw at glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint drwy ddiwrnod clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint y byd ar 16 Tachwedd 2022.

2. Yn nodi bod dros 74,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.

3. Yn croesawu cyhoeddi adroddiad newydd gan Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru sy'n dangos nad yw'r rhan fwyaf o bobl â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn derbyn y lefelau gofal sylfaenol y dylent eu disgwyl, gan gynnwys pum hanfod gofal clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried datblygu Datganiad Ansawdd Iechyd yr Ysgyfaint newydd i wella gofal a chymorth i bobl sy'n byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint .