OPIN-2022-0315 Wythnos Parch at Weithwyr Siop 2022 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn cydnabod bod y sector manwerthu yn cyfrif am 5.9 y cant o GVA Cymru ac yn cyflogi 120,000 o bobl.

2. Yn nodi arolwg diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Manwerthu o ganfyddiadau staff manwerthu a oedd yn nodi:

a) bod un ymhob tri ohonynt yn cael eu cam-drin yn wythnosol;

b) bod dau draean ohonynt yn credu bod ymosodiadau geiriol/corfforol wedi gwaethygu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf;

c) bod llawer wedi dioddef straen neu bryder neu wedi ystyried rhoi'r gorau i'w swyddi;

d) nad yw chwarter ohonynt yn adrodd digwyddiadau.

3. Yn cydnabod mai dydd Llun 14 Tachwedd 2022 yw dechrau wythnos blynyddol USDAW ar gyfer at wweithwyr siop.

4. Yn cefnogi'r ffaith bod USDAW yn annog staff manwerthu i 'adrodd i'w sortio' yn lle dioddef mewn tawelwch.