OPIN-2022-0314 Diwrnod Diabetes y Byd 2022 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu Diwrnod Diabetes y Byd ar 14 Tachwedd 2022.
2. Yn cydnabod difrifoldeb diabetes a phwysigrwydd diagnosis cynnar ar gyfer pob math o ddiabetes.
3. Yn cydnabod yr angen i bawb sylwi ar arwyddion diabetes a deall y risg y mae hwy'n eu wynebu o ddatblygu diabetes math 2.
4. Yn galw ar ei aelodau a Llywodraeth Cymru i weithio gyda Diabetes UK Cymru i rannu'r pedwar arwydd o ddiabetes math 1 (syched, blinder, toiled a theneuo), codi ymwybyddiaeth o bob math o ddiabetes, cefnogi pobl sy'n byw â diabetes, a helpu eraill i wybod beth yw eu risg o ddatblygu diabetes math 2.