OPIN-2022-0312 Pob lwc i Gymru yng Nghwpan y Byd 2022 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi y bydd Cymru'n cystadlu yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yn Qatar fis Tachwedd eleni - y tro cyntaf i Gymru gymryd rhan yn y gystadleuaeth mewn 64 mlynedd.

2. Yn dymuno pob lwc i Rob Page, ei staff a'i chwaraewyr yn eu gemau yn erbyn UDA, Iran a Lloegr.

3. Yn cydnabod y cyfleoedd aruthrol y mae cyfranogiad ein cenedl yn y twrnamaint yn eu cynnig o ran ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a rhoi hwb i bêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru.

4. Yn cydnabod y pryderon ynghylch hanes blaenorol Qatar ar hawliau dynol a chynwysoldeb.

Tanysgrifwyr