Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Clefydau Prin 2022-26, sydd â'r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau gofal a gwella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefydau prin a'u teuluoedd.
2. Yn cydnabod bod yn rhaid i fyrddau iechyd adlewyrchu blaenoriaethau'r cynllun wrth ddatblygu gwasanaethau ac yn credu y dylid rhoi sylw i gydlynu gofal amlddisgyblaeth a thrawsnewid o wasanaethau pediatrig i wasanaethau oedolion, gan greu atebion gofal teg, cyson, Cymru gyfan.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, tra'i bod yn cael ei dwyn i gyfrif ei hun am gyflwyno cynllun, yn ogystal â'r Grŵp Gweithredu ar Glefydau Prin, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu'n effeithiol gan fyrddau iechyd.