OPIN-2022-0307 Dadansoddiad annibynnol o ddata Ambiwlans Awyr/EMRTS
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y gwasanaeth amhrisiadwy y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei ddarparu.
2. Yn nodi â phryder gynigion i ganoli gwasanaeth gogledd a chanolbarth Cymru mewn un safle gyda'r posibilrwydd o gau'r canolfannau yng Nghaernarfon a'r Trallwng.
3. Yn cydnabod dwy ddeiseb gyhoeddus sy'n galw am gadw'r ganolfan yng Nghaernarfon a'r Trallwng.
4. Yn mynegi pryder mawr am sut y bydd y cynnig hwn yn cryfhau gofal meddygol brys diogel yn yr ardaloedd mwyaf gwledig ac anodd eu cyrraedd yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
5. Yn galw ar y Llywodraeth i gomisiynu dadansoddiad annibynnol o ddata'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys sy'n cael ei ddefnyddio fel sail i'r cynigion hyn.