OPIN-2022-0303 Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi y cynhelir wythnos genedlaethol ymwybyddiaeth troseddau casineb 2022, wythnos o undod â'r rhai yr effeithir arnynt gan droseddau casineb, rhwng 8 a 15 Hydref.

2. Yn nodi mai nod yr wythnos genedlaethol yw annog yr awdurdodau (llywodraethau, yr Heddlu a chynghorau), partneriaid allweddol a chymunedau yr effeithir arnynt gan droseddau casineb i gydweithio i fynd i'r afael ag achosion o droseddau casineb lleol ledled Cymru.

3. Yn credu bod troseddau casineb yn seiliedig ar anwybodaeth a rhagfarn ac yn cydnabod mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â hynny yw drwy integreiddio, ymgysylltu a rhannu gyda'n gilydd.