OPIN-2022-0302 Protestiadau yn Iran
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi marwolaeth Mahsa Amini, 22 oed, a fu farw yn y ddalfa ar ôl cael ei harestio gan heddlu moesoldeb yn Tehran ar ôl cael ei chyhuddo o dorri cyfreithiau llym sy'n ei gwneud yn ofynnol i fenywod orchuddio eu gwallt.
2. Yn condemnio'r gorthrwm a'r trais yn erbyn menywod a merched gan heddlu gwladwriaeth Iran, ac yn sefyll mewn undod â phrotestwyr ac
Iraniaid alltud yng Nghymru.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ganfod pa gymorth y gellir ei roi i fenywod a merched Iran, gan gynnwys taith ddiogel i'r rhai sy'n ceisio gadael Iran.