OPIN-2022-0299 Diwrnod Rhyngwladol Aer Glân ar gyfer Awyr Las
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod 7 Medi 2022 yn Ddiwrnod Rhyngwladol Aer Glân ar gyfer awyr las;
b) gwaith Awyr Iach Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddeddf Aer Glân i godi ymwybyddiaeth o beryglon llygredd aer;
c) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Aer Glân o fewn y 12 mis nesaf.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Aer Glân uchelgeisiol cyn gynted â phosib i ymgorffori yng nghanllawiau ansawdd aer newydd Sefydliad Iechyd y Byd a rhoi'r 'hawl i anadlu' aer glân i bawb.