OPIN-2022-0290 Diogelwch trydan yn ystod argyfwng costau byw (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2022

Mae'r Senedd hon:
1, Yn croesawu ymchwiliad yr elusen Electrical Safety First i ddyfeisiau trydanol anniogel sy'n cael eu gwerthu ar-lein y honnir eu bod yn helpu deiliaid tai i arbed arian ar filiau ynni.
2. Yn nodi bod llawer o ddyfeisiau yr ymchwiliwyd iddynt wedi methu safonau diogelwch sylfaenol ac yn peri risg ddifrifol o dân neu sioc drydanol, ac yn condemnio arferion gwerthu sy'n manteisio ar gostau ynni cynyddol drwy dorri safonau diogelwch.
3. Yn rhannu pryderon Electrical Safety First ynghylch cynhyrchion trydanol is-safonol a gwerthu nwyddau anniogel ar farchnadoedd ar-lein gan werthwyr trydydd parti ac yn cefnogi'r argymhellion i brynu nwyddau trydanol gan fanwerthwyr dibynadwy yn unig.