OPIN-2022-0287 Cefnogi pobl sydd â diabetes
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod 209,015 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, sy'n cyfateb i 1 o bob 13 o bobl.
2. Yn nodi'r tebygolrwydd cynyddol y bydd pobl sy'n byw gyda diabetes yn profi lefelau uwch o drallod seicolegol oherwydd gofynion byw gyda'r cyflwr.
3. Yn cydnabod y realiti bod mynediad at gymorth seicolegol ar goll o ofal diabetes yng Nghymru i'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gyda diabetes.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried adroddiad Dr Rose Stewart ‘From Missing to Mainstream’, sy'n galw am gymorth seicolegol arbenigol sydd wedi'i wreiddio mewn gwasanaethau diabetes i fod ar gael i bob person sydd â diabetes.