OPIN-2022-0286 Corff Llais y Dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn galw am leoli pencadlys Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.
2. Yn credu y byddai lleoli pencadlys Corff Llais y Dinesydd yn y Gogledd yn dangos ymrwymiad cynnar gan y sefydliad i ddatganoli.
3. Yn galw ymhellach ar Gorff Llais y Dinesydd i warantu i ddinasyddion y bydd yn gwasanaethu pob rhan o Gymru yn gyfartal drwy gael cynrychiolaeth deg o bob un o ardaloedd y byrddau iechyd ar lefel weithredol a bwrdd.