Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ar wythnos Bwyd a Ffermio Cymru.
2. Yn credu, gyda fframwaith polisi galluogi, gall ffermio yng Nghymru fod yn ganolog i'r adferiad gwyrdd gan gadarnhau Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes cynhyrchu bwyd sy'n ystyriol o'r hinsawdd.
3. Yn cydnabod:
a) y cyfraniad y mae ffermio yn ei wneud i gymunedau, yr economi, y dirwedd, yr amgylchedd, diwylliant, iaith;
b) pwysigrwydd pennu amcanion i asesu, cynnal a gwella lefelau cynhyrchu bwyd domestig ochr yn ochr â'r amcanion sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a bioamrywiaeth ac amcanion amgylcheddol ehangach;
c) bod cyflenwi bwyd diogel, fforddiadwy o ansawdd uchel yn flaenoriaeth strategol a bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i gynnal hyder a sefydlogrwydd y sector.