OPIN-2022-0283 Diwrnod Plentyndod yr NSPCC (10 Mehefin)
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 06/06/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu Diwrnod Plentyndod yr NSPCC (10 Mehefin) - diwrnod sy'n dod â phawb at ei gilydd i amddiffyn plant.
2. Yn nodi bod yr NSPCC wedi cefnogi 594 o blant/teuluoedd yng Nghymru yn ystod y pandemig, gan helpu i atal camdriniaeth a chefnogi adferiad.
3. Yn cymeradwyo'r NSPCC am gyrraedd bron i 18,500 o blant mewn 114 o ysgolion cynradd yn 2021/22 fel rhan o'i raglen Cofia Ddweud. Cadw'n Ddiogel.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth cynnar, rhwyd ddiogelwch mor gryf â phosibl i deuluoedd a chymorth i bob plentyn wella ar ôl cael ei gam-drin.
5. Yn gofyn i bob plentyn gael ei gefnogi a chyflawni ei hawl i fod yn ddiogel ar-lein.