OPIN-2022-0281 Llongyfarchiadau i Dîm Pêl-droed Dynion Cymru am gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/06/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Tîm Pêl-droed Dynion Cymru am gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
2. Yn dymuno'r gorau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wrth iddi baratoi ar gyfer Cwpan y Byd FIFA Qatar 2022 sy'n dechrau ym mis Tachwedd 2022.
3. Yn nodi gyda balchder bod y tîm yn parhau i fod 'Yma o Hyd'.