OPIN-2022-0280 Llongyfarchiadau i dîm Pêl-droed Dynion Cymru ar gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Pêl-droed y Byd (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/06/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Dynion Cymru ar gyrraedd Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
2. Yn dymuno'r gorau i bawb a wnelo â'r ymgyrch i fod yn llwyddiannus yng Nghwpan y Byd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2022.
3. Yn llongyfarch y Wal Goch a'r cefnogwyr ymhellach am eu hymddygiad rhagorol yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Tanysgrifwyr