Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu Wythnos Ymwybyddiaeth Clefyd Seilag y DU (9-15 Mai).
2. Yn cydnabod bod clefyd seliag yn gyflwr awto-imiwn difrifol sy'n effeithio ar 1 o bob 100 o bobl.
3. Yn mynegi pryder bod dwy ran o dair o bobl â chlefyd seliag (20,000) yng Nghymru heb gael diagnosis, gan eu gadael mewn perygl o gymhlethdodau hirdymor posibl (e.e. osteoperosis, camweithrediad niwrolegol, problemau ffrwythlondeb ac, mewn achosion prin, canser y coluddyn bach).
4. Yn annog pobl sy'n profi symptomau cyffredin fel blinder, salwch, dolur rhydd, rhwymedd a diffygion maethol i ymweld â www.isitcoeliacdisease.org.uk.
5. Yn galw ar feddygon teulu i gael trothwy isel ar gyfer profi am glefyd seliag.
6. Yn annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu llwybr seliag.