OPIN-2022-0278 Diwrnod atal gwastraff bwyd (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/04/2022

Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod diwrnod atal gwastraff bwyd, a gaiff ei ddathlu ar 27 Ebrill.
2. Yn cydnabod cyfraniad pwysig partneriaid diwrnod atal gwastraff bwyd, gan gynnwys Compass Cymru, wrth weithredu arferion cynaliadwy a gweithio i sbarduno newid.
3. Yn nodi'r angen i fynd i'r afael â gwastraff bwyd fel rhan o gynllun ehangach uchelgeisiol i gyrraedd targedau Cymru ar gyfer newid hinsawdd, ac i ddiogelu'r amgylchedd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda manwerthwyr bwyd, cynhyrchwyr a chyrff cyhoeddus i leihau gwastraff bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, gan gynnwys atal bwyd na ellir ei werthu, sy'n addas i'w ddefnyddio ac yn ddiogel i'w fwyta rhag cael ei ddinistrio.

Cyflwynwyd gan