OPIN-2022-0277 Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2022

Mae’r Senedd:
1. Yn cydnabod yr wythnos ryngwladol pontio’r cenedlaethau cyntaf.
2. Yn cydnabod bod Cymru yn arwain ar y cyd â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda saith gwlad arall yn cefnogi’r ymgyrch.
3. Yn cydnabod bod sawl mudiad, ysgol, cartref gofal a gwasanaeth ar draws Cymru yn ymuno yn y dathliadau.
4. Yn cytuno bod pontio’r cenedlaethau yn cynnig ffordd unigryw i gryfhau cymunedau, i ddod a phobl o bob oedran at ei gilydd ac i herio oedraniaeth ac unigrwydd, ac yn dathlu'r wythnos ryngwladol hon a'r gwaith cysylltiedig.