OPIN-2022-0276 Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod 2 i 8 Mai yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod.
2. Yn deall bod llawer o bobl ifanc fyddar yn wynebu heriau oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o fyddardod.
3. Yn cymeradwyo bwrdd cynghori ieuenctid Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar (gan gynnwys aelodau o Gymru: Tegan, Rhys a Miriam) ar ei ddeiseb yn galw am hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod i bob athro, sydd wedi casglu tua 50,000 o lofnodion hyd yma.
4. Yn galw am annog athrawon ledled Cymru i ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod.

Tanysgrifwyr