OPIN-2022-0275 Bonws i weithwyr ychwanegol cartrefi gofal (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2022

Mae'r Senedd hwn:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn talu bonws o £1000 i'r gweithlu gofal.
2. Yn cydnabod bod gweithlu cynorthwyol cartrefi gofal megis glanhawyr a chogyddion wedi mynd y tu hwnt i'r hyn oedd yn ofynnol ohonynt yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus diweddar.
3. Yn galw ar i'r Llywodraeth i dalu'r bonws o £1000 i'r gweithlu cynorthwyol.