OPIN-2022-0273 Diwrnod Clefyd Parkinson y Byd - 11 Ebrill 2022 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi bod Diwrnod Clefyd Parkinson y Byd yn cael ei gynnal ar 11 Ebrill 2022 i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i siarad am glefyd Parkinson.

2. Yn cydnabod mai clefyd Parkinson yw'r cyflwr niwrolegol sy'n tyfu gyflymaf yn y byd a bod tua 7,600 o bobl yng Nghymru eisoes yn byw gyda chlefyd Parkinson, gyda'r nifer hwn yn debygol o gynyddu tua un rhan o bump erbyn 2030.

3. Yn cydnabod bod mwy i'w wneud yng Nghymru i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.