OPIN-2022-0272 Datganiad Cymru Ddi-niwclear
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi ei bod yn 40 mlynedd ers Datganiad Cymru Ddi-niwclear 1982, pan basiodd pob un o'r wyth cyngor sir benderfyniadau yn datgan eu gwrthwynebiad i arfau niwclear yng Nghymru.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd ymgyrchoedd ar lawr gwlad yn sgil y twf parhaus mewn o arfau niwclear.
3. Yn cydnabod y gwaith hanfodol a wnaed gan yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear wrth ymgyrchu dros heddwch.
4. Yn dathlu'r datganiad o wrthwynebiad a wnaed gan wyth o gynghorau Cymru ac yn cymeradwyo eu hawydd am Gymru heb arfau niwclear.
5. Yn galw ar bob gwladwriaeth i lofnodi a chadarnhau cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar wahardd arfau niwclear.