OPIN-2022-0270 Lansio strategaeth ymladd dros anadl Asthma + Lung UK Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu lansiad Asthma + Lung UK Cymru a'u strategaeth 'Ymladd dros Anadl'.

2. Yn nodi bod un o bob pump o bobl yn byw gyda chyflwr yr ysgyfaint yng Nghymru gan gynnwys 314,000 gydag asthma a 74,000 gyda
chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.

3. Yn nodi mai cyflyrau'r ysgyfaint yw'r trydydd lladdwr mwyaf a bod gan Gymru'r gyfradd marwolaethau waethaf ar gyfer cyflyrau ysgyfaint unrhyw wlad yng Ngorllewin Ewrop.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu datganiad ansawdd iechyd yr ysgyfaint newydd i wella gofal a chymorth i'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.