OPIN-2022-0268 Diwrnod Gweithredu Dathlu Gofalwyr Ifanc - 16 Mawrth 2022 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn cydnabod y cynhelir Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ar 16 Mawrth 2022, gan werthfawrogi'r cyfraniadau y mae gofalwyr ifanc ledled Cymru'n eu gwneud i wella bywydau eu hanwyliaid sydd angen gofal.

2. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu adnabod, eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael y cymorth angenrheidiol i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu drwy gydol eu bywydau.

3. Yn cefnogi gwaith grwpiau sy'n cefnogi gofalwyr, gan nodi gwaith gwych grwpiau ledled Cymru sy'n ceisio gwella bywoliaeth gofalwyr ifanc drwy ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol.

Tanysgrifwyr