OPIN-2022-0267 Lleihau allyriadau carbon mewn manwerthu (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu cyhoeddi canllaw newydd i fanwerthwyr ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn eu cadwyni cyflenwi.
2. Yn nodi bod y canllaw wedi'i baratoi gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru a'i chwaer sefydliadau ledled y DU fel rhan o fap ffordd sero net y diwydiant, sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo'r sector manwerthu i ddatgarboneiddio siopau erbyn 2030 ac, holl weithrediadau a chadwyn gyflenwi'r sector erbyn 2040.
3. Yn nodi ymhellach bod y canllaw yn amlinellu camau ymarferol manwl y gall manwerthwyr eu cymryd ar y cyd â chyflenwyr i fonitro, mesur a lleihau allyriadau ac adrodd arnynt.