OPIN-2022-0264 Pythefnos Masnach Deg 2022
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 18/02/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod Pythefnos Masnach Deg 2022 yn rhedeg rhwng 21 Chwefror a 6 Mawrth, gyda phwyslais ar gyfiawnder hinsawdd a'r heriau cynyddol mae hyn yn ei gyflwyno i ffermwyr a gweithwyr yn y cymunedau mae Masnach Deg yn gweithio gyda.
2. Yn nodi ymhellach fod Pythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ledled Cymru ddathlu llwyddiannau Masnach Deg a dysgu mwy am y gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud.
3. Yn credu, trwy brynu nwyddau gyda nod Masnach Deg, ein bod yn helpu cymunedau ar draws y byd i fyw bywyd tecach.