OPIN-2022-0261 Cyfranogiad Merched mewn Rygbi
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 16/02/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi y dylai rygbi fod ar gael i bob person ifanc waeth beth fo'i oedran neu ei ryw.
2. Yn nodi bod rygbi'n chwarae rhan bwysig mewn ysgolion ledled Cymru a bod y gamp yn cael ei rhannu ar draws pob oedran a rhyw.
3. Yn cydnabod y dylid ystyried unrhyw benderfyniad a wneir sy'n effeithio ar sut mae pobl ifanc yn chwarae yng nghyd-destun cydraddoldeb.
4. Yn cydnabod yr angen i wrando ar bobl ifanc o ran sut y gall cyfranogiad mewn rygbi dyfu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru ac ysgolion i alluogi merched o dan 12 oed i barhau i gymryd rhan lawn mewn rygbi cymysg mewn ysgolion.