OPIN-2022-0259 Diwrnod Gofal Rhyngwladol (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/02/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi:
a) mai 18 Chwefror yw Diwrnod Gofal Rhyngwladol.
b) bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno nifer o fentrau sydd â'r nod o wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal.
c) pwysigrwydd sicrhau bod plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn gallu chwarae rhan lawn yn eu cymunedau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:
a) bod lleisiau plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn cael eu clywed wrth lunio a chyflwyno diwygiadau ac y gweithredir ar yr hyn y maent yn ei ddweud.
b) bod y mentrau hyn yn cael eu cydgysylltu'n effeithiol a'u hadnoddu'n llawn er mwyn diwygio'r gwasanaethau sydd eu hangen yn radical.