OPIN-2022-0258 Cais ar y cyd rhwng y DU a ROI ar gyfer Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop 2028 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu'r cais ar y cyd ar gyfer Ewro 2028 UEFA gan gymdeithasau pêl-droed y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

2. Yn cydnabod bod Cymru'n gartref gwych ar gyfer digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol a'i bod eisoes wedi cynnal y gêm fwyaf ym mhêl-droed clwb, sef rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA.

3. Yn cydnabod y manteision niferus y byddai cynnal y twrnamaint yn eu cynnig, fel hybu'r economi, annog cyfranogiad mewn chwaraeon a hyrwyddo Cymru i'r byd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i wneud y cais yn llwyddiannus, gan gynnwys gweithio gyda llywodraethau Ynysoedd Prydain a chyrff perthnasol.