OPIN-2022-0256 Dod â'r sgandal diogelwch tân i ben (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/02/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi bod eleni'n bum mlynedd ers i 72 o fywydau gael eu colli yn y tân yn Nhŵr Grenfell.

2. Yn mynegi pryder bod pobl yn parhau i fyw mewn cartrefi a allai fod yn anniogel.

3. Yn cydnabod cynnydd Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru a Chynllun Pasbortau Diogelwch Adeiladau Cymru o ran canfod yr adeiladau hynny yr effeithir arnynt.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlenni a chyflwyno cam nesaf y cymorth ariannol i lesddeiliaid ar frys er mwyn atal biliau cynyddol.