OPIN-2022-0253 Mis Hanes LGBTQ+
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 01/02/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod mis Chwefror yn nodi Mis Hanes LGBTQ+.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd nodi a dathlu hanes LGBTQ+ Cymru.
3. Yn sefyll mewn undod â phob aelod o'r gymuned LGBTQ+ yng Nghymru.
4. Yn ymrwymo i sefyll yn erbyn casineb a gwahaniaethu yn erbyn pob person LGBTQ+.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys a phendant i fynd i'r afael â throseddau casineb homoffobig, deuffobig a thrawsffobig ledled Cymru.