OPIN-2022-0252 #Wrecsam2025
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai Wrecsam yw'r unig le yng Nghymru ar restr hir Dinas Diwylliant y DU ar gyfer 2025.
2. Yn cydnabod y potensial ar gyfer diwylliant yn ei ystyr ehangaf i gynorthwyo adfywio economaidd a chydlyniant diwylliannol, gan nodi bod ymgeiswyr llwyddiannus blaenorol fel Hull wedi gweld buddsoddiad o £200 miliwn ac y creuwyd 800 o swyddi.
3. Yn cefnogi cais Wrecsam ac yn argymell defnyddio'r hashnod #Wrecsam2025 wrth fynegi cefnogaeth.