OPIN-2022-0251 Gŵyl y Banc ar ddydd gŵyl Dewi
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod yr hawl i greu gwyliau banc wedi’i roi i lywodraethau yr Alban a Gogledd Iwerddon.
2. Yn nodi bod gŵyl banc newydd ym mis Mehefin i ddathlu Jiwbili Elizabeth II.
3. Yn cydnabod bod wyth gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr, naw yn yr Alban a 10 yng Ngogledd Iwerddon.
4. Yn cydnabod bod gŵyl banc San Padrig yng Ngogledd Iwerddon, a gŵyl y banc Sant Andrew yn yr Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu datganoli yr hawl i benderfynu ar wyliau banc ac i fynnu fod Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.