OPIN-2022-0250 Canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2022
Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, ar gyrraedd ei chanmlwyddiant
2. Yn diolch i'r mudiad am y gwaith pwysig y mae wedi'i gyflawni, ac yn parhau i'w gyflawni, o ran hybu'r Gymraeg fel iaith fyw sy'n perthyn i bawb.
3. Yn nodi pwysigrwydd gwaith y mudiad o ran cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
4. Yn dymuno’n dda i'r mudiad wrth ddathlu eleni, ac yn edrych ymlaen at weld y mudiad yn parhau i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol.