OPIN-2022-0248 Wythnos Atal Canser Serfigol 2022 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi mai'r wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr 2022 yw Wythnos Atal Canser Serfigol.

2. Yn cydnabod bod mynychu sgrinio serfigol yn bwysig ac yn gallu achub bywydau, ond nad yw bob amser yn hawdd.

3. Yn deall bod newidiadau diweddar i'r rhaglen sgrinio serfigol, a'r ffordd y cawsant eu cyfleu, wedi achosi pryder a dryswch.

4. Yn annog Gweinidogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i flaenoriaethu adfer hyder yn y rhaglen drwy gyfathrebu clir ac uniongyrchol i ateb y pryderon sydd gan lawer o bobl.

5. Yn pwysleisio'r faith bod Ymddiriedolaeth Canser Serfigol Jo yn darparu gwybodaeth a chymorth parhaus.

6. Yn annog Aelodau i gefnogi'r wythnos i bwysleisio gwerth mynychu sgrinio serfigol.

Tanysgrifwyr