OPIN-2022-0246 Llongyfarchiadau i Feddygon Mwslimaidd Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/01/2022

Mae'r Senedd hon:

1) Yn talu teyrnged i waith Meddygon Mwslimaidd Cymru wrth fynd i'r afael â COVID-19, ac yn arbennig drwy herio'r camwybodaeth ynghylch brechiadau.

2) Yn cydnabod y rôl bwysig y mae Meddygon Mwslimaidd Cymru wedi'i chwarae o ran cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar frechlynnau ymhlith ein cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

3) Yn diolch i Feddygon Mwslimaidd Cymru am eu gwaith ehangach ar faterion iechyd eraill, gan gynnwys canser.

4) Yn llongyfarch yr aelod sefydlu Dr Bnar Talabani ar gael ei gydnabod drwy gael MBE yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.