OPIN-2022-0245 Atal anffurfio cŵn yn anghyfreithlon
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 06/01/2022
Mae'r Senedd hon:
1) Yn nodi bod cnydio clustiau a docio cynffonnau yn anghyfreithlon yn y DU oni bai ei fod yn cael ei berfformio gan filfeddyg am resymau meddygol.
2) Yn pryderu bod cnydio cŵn yn anghyfreithlon ar gynnydd a bod y nifer yr achosion a adroddwyd i'r RSPCA wedi cynnyddu o 14 yn 2015 i 101 yn 2020.
3) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu ei hymdrechion i ddileu'r weithred anghyfreithlon a chreulon o anffurfio cŵn yng Nghymru.
4) Yn cefnogi erlyn y grwpiau a'r unigolion hynny sy'n cyflawni troseddau creulon yn erbyn anifeiliaid