OPIN-2022-0244 Retain the three year cervical cancer screening tests (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn gwrthwynebu symud i gylch pum mlynedd ar gyfer sgrinio serfigol, gan gydnabod pwysigrwydd sgrinio ar gyfer canser ceg y groth mor aml â phosibl, ac yn cefnogi'r cylch tair blynedd presennol, neu ei wella.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch sy'n annog menywod i fanteisio ar y cynnig o apwyntiad sgrinio serfigol.

3. Yn nodi bod 3,197 o achosion o ganser ceg y groth ar gyfartaledd yn cael eu darganfod yn flynyddol, gyda 854 o farwolaethau rhwng 2016 a 2018 a dim ond 51 y cant yn goroesi'r canser hwn am fwy na 10 mlynedd.

4. Yn cydnabod bod modd atal 99.8 y cant o achosion canser ceg y groth.