OPIN-2021-0241 Diwrnod AIDS y Byd 2021
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn coffáu Diwrnod AIDS y Byd a gynhelir ar 1 Rhagfyr 2021, yn cofio'r rhai a gollwyd yn yr epidemig ac yn byw gyda'r feirws ac yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol i roi terfyn ar achosion newydd o HIV erbyn 2030.
2. Yn cydnabod y pedwar degawd o gynnydd, lle gall pobl sy'n byw gyda HIV ar driniaeth effeithiol fod â disgwyliad oes arferol ac na allant drosglwyddo'r feirws.
3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun gweithredu HIV i Gymru.
4. Yn cefnogi galwadau Terrence Higgins Trust Cymru am gynllun â ffocws ar fwy o brofion, atal, cadw mewn gofal a dileu stigma – wedi'i gefnogi gan gyllid penodol.