OPIN-2021-0239 Blaenoriaethu timau achub mynydd ar gyfer y brechiad atgyfnerthu COVID-19
(d)
Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod bod timau achub mynydd a chwilio ac achub yn ymatebwyr golau glas gwasanaeth brys, sydd â chylch gwaith eang ymhell y tu hwnt i achub mynydd.
2. Yn nodi pwysigrwydd timau achub mynydd wrth gefnogi gwasanaethau brys eraill, fel arfer o dan amgylchiadau eithafol.
3. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ein gwirfoddolwyr tîm achub mynydd ers dechrau pandemig COVID-19.
4. Yn galw ar GIG Cymru i sicrhau bod ymatebwyr golau glas y gwasanaeth brys, yn wirfoddolwyr neu'n weithwyr cyflogedig, yn cael eu blaenoriaethu ar unwaith yn y rhaglenni brechu neu frechu atgyfnerthu cyfredol, neu yn y ddyfodol.